Josua 21:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma arweinwyr llwyth Lefi yn mynd at Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel,

2. yn Seilo yn Canaan. A dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses roi trefi i ni fyw ynddyn nhw, gyda tir pori o'u cwmpas nhw i'n hanifeiliaid.”

3. Felly, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, dyma bobl Israel yn rhoi trefi gyda tir pori o'u cwmpas nhw, i lwyth Lefi:

4. Y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath gafodd y rhai cyntaf. Cafodd y Lefiaid oedd yn ddisgynyddion Aaron yr offeiriad un deg tair o drefi o diriogaeth llwythau Jwda, Simeon a Benjamin.

5. A dyma'r gweddill o ddisgynyddion Cohath yn cael deg tref o diriogaeth llwythau Effraim, Dan a hanner llwyth Manasse.

6. Cafodd disgynyddion Gershon un deg tair o drefi o diriogaeth llwythau Issachar, Asher, Nafftali, a hanner arall llwyth Manasse yn Bashan.

Josua 21