7. Felly dyma nhw'n dewis Cedesh yn Galilea, ym mryniau tiriogaeth Nafftali, Sichem ym mryniau Effraim, a Ciriath-arba (sef Hebron) ym mryniau Jwda.
8. Ac i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho, dyma nhw'n dewis Betser yn yr anialwch ar wastadedd tiriogaeth llwyth Reuben, Ramoth yn Gilead ar dir llwyth Gad, a Golan yn Bashan oedd yn perthyn i lwyth Manasse.
9. Y rhain gafodd eu dewis yn drefi lloches i bobl Israel a'r mewnfudwyr oedd yn byw gyda nhw. Gallai rhywun oedd wedi lladd person yn ddamweiniol, ddianc yno i osgoi cael ei ladd gan y perthynas sydd â'r hawl i ddial, hyd nes i'w achos gael gwrandawiad mewn llys cyhoeddus.