5. A pan fydd y perthynas sydd â'r hawl i ddial yn dod ar ei ôl, dylen nhw wrthod ei roi iddo, am mai damwain oedd yr hyn ddigwyddodd – doedd e ddim wedi bwriadu lladd.
6. Ond rhaid iddo aros yn y dref nes bydd llys cyhoeddus wedi dod i ddyfarniad ar ei achos a'r un sy'n archoffeiriad ar y pryd wedi marw. Wedyn bydd yn cael mynd yn ôl i'r dref lle roedd yn byw cyn iddo ddianc.”
7. Felly dyma nhw'n dewis Cedesh yn Galilea, ym mryniau tiriogaeth Nafftali, Sichem ym mryniau Effraim, a Ciriath-arba (sef Hebron) ym mryniau Jwda.
8. Ac i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho, dyma nhw'n dewis Betser yn yr anialwch ar wastadedd tiriogaeth llwyth Reuben, Ramoth yn Gilead ar dir llwyth Gad, a Golan yn Bashan oedd yn perthyn i lwyth Manasse.
9. Y rhain gafodd eu dewis yn drefi lloches i bobl Israel a'r mewnfudwyr oedd yn byw gyda nhw. Gallai rhywun oedd wedi lladd person yn ddamweiniol, ddianc yno i osgoi cael ei ladd gan y perthynas sydd â'r hawl i ddial, hyd nes i'w achos gael gwrandawiad mewn llys cyhoeddus.