12. Dw i eisiau i chi fynd ar eich llw, ac addo i mi o flaen yr ARGLWYDD, y byddwch chi'n arbed bywydau fy nheulu i, fel dw i wedi arbed eich bywydau chi. Rhowch arwydd sicr i mi
13. na fyddwch chi'n lladd neb yn fy nheulu – dad, mam, fy mrodyr a'm chwiorydd, na neb arall yn y teulu.”
14. A dyma'r dynion yn addo iddi, “Boed i ni dalu gyda'n bywydau os cewch chi'ch lladd! Os gwnei di ddim dweud wrth neb amdanon ni, byddwn ni'n cadw'n haddewid i ti pan fydd yr ARGLWYDD yn rhoi'r wlad yma i ni.”
15. Yna dyma Rahab yn eu gollwng nhw i lawr ar raff o ffenest ei thŷ. (Roedd wal allanol ei thŷ hi yn rhan o wal y ddinas.)
16. “Ewch i gyfeiriad y bryniau,” meddai wrthyn nhw. “Fydd y dynion sydd ar eich holau chi ddim yn dod o hyd i chi wedyn. Cuddiwch yno am dri diwrnod, i roi cyfle iddyn nhw ddod yn ôl. Wedyn gallwch fynd ar eich ffordd.”
17. Dyma'r dynion yn dweud wrthi, “Allwn ni ddim ond cadw'r addewid wnaethon ni i ti ar un amod:
18. Pan fyddwn ni'n ymosod ar y wlad, rhwyma'r rhaff goch yma iddi hongian allan o'r ffenest wnaethon ni ddianc trwyddi. A rhaid i ti gasglu dy deulu i gyd at ei gilydd yn y tŷ – dy dad, dy fam, dy frodyr a dy chwiorydd, a phawb arall.
19. Os bydd unrhyw un yn gadael y tŷ ac yn cael ei ladd, nhw eu hunain fydd ar fai – fydd dim bai arnon ni. Ond os bydd unrhyw un sydd yn y tŷ yn cael niwed, ni fydd yn gyfrifol.