9. Felly dyma'r dynion yn mynd trwy'r wlad i gyd, a'i mapio, a rhestru'r trefi i gyd ar sgrôl, a rhannu'r tir yn saith ardal. Yna dyma nhw'n dod yn ôl at Josua i'r gwersyll yn Seilo.
10. A dyma Josua yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yn Seilo, i rannu'r tir rhwng pobl Israel, a gweld pa ardal fyddai pob llwyth yn ei gael.
11. Teuluoedd llwyth Benjamin gafodd y rhan gyntaf. Eu tir nhw fyddai'r ardal rhwng tir Jwda a tir meibion Joseff.