Josua 18:12-17 beibl.net 2015 (BNET)

12. Roedd y ffin yn y gogledd yn mynd o Afon Iorddonen ar hyd y llethr i'r gogledd o Jericho, wedyn i fyny i'r bryniau i gyfeiriad y gorllewin ac ymlaen at anialwch Beth-afen.

13. Roedd yn croesi wedyn i Lws, ar hyd y llethr sydd i'r de o Lws (sef Bethel). Yna i lawr i Atroth-adar sydd ar y bryn i'r de o Beth-choron Isaf.

14. Wedyn roedd yn troi o'r fan honno i'r de, ar hyd ochr orllewinol y bryn ac i lawr i Ciriath-baal (sef Ciriath-iearim) un o'r trefi oedd ar dir llwyth Jwda. Dyna'r ffin i'r gorllewin.

15. Yna roedd ffin y de yn dechrau wrth Ciriath-iearim, ac yn rhedeg i gyfeiriad Ffynnon Nefftoach.

16. Wedyn roedd y ffin yn mynd i lawr at droed y mynydd sydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom sydd wrth ben gogleddol Dyffryn Reffaïm. Yna i lawr Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i'r de o Jerwsalem, ac ymlaen i En-rogel.

17. O En-rogel roedd yn troi i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i En-shemesh ac yna i Geliloth sydd gyferbyn â Bwlch Adwmim, yna i lawr at Garreg Bohan (mab Reuben).

Josua 18