4. Dyma nhw'n mynd at Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn, a'r arweinwyr eraill, a dweud, “Dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses am roi tir i ni gyda'n perthnasau.” Felly dyma Josua yn rhoi tir iddyn nhw gyda brodyr eu tad, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.
5. Cafodd Manasse ddeg darn o dir yn ychwanegol at Gilead a Bashan oedd i'r dwyrain o Afon Iorddonen,
6. am fod merched o lwyth Manasse wedi cael tir gyda'r meibion. (Roedd tir Gilead yn perthyn i weddill disgynyddion Manasse.)
7. Roedd tir Manasse yn ymestyn o'r ffin gyda llwyth Asher yn y gogledd, i Michmethath wrth ymyl Sichem. Yna roedd yn mynd yn bellach i'r de at y bobl oedd yn byw yn En-tappŵach.
8. (Roedd yr ardal o gwmpas Tappŵach yn perthyn i lwyth Manasse, ond tref Tappŵach ei hun, oedd ar ffin Manasse yn perthyn i lwyth Effraim.)
9. Wedyn roedd ffin y de yn dilyn Dyffryn Cana. Roedd trefi yno, yng nghanol trefi Manasse, oedd wedi cael eu rhoi i lwyth Effraim. Ond roedd ffin Manasse yn mynd ar hyd ochr ogleddol y dyffryn, at y môr.
10. Tir Effraim oedd i'r de o'r ffin, a Manasse i'r gogledd. Môr y Canoldir oedd ffin Manasse i'r gorllewin. Yna roedd eu tir yn ffinio gyda llwyth Asher i'r gogledd ac Issachar i'r dwyrain.
11. Ac roedd rhai trefi o fewn ffiniau Asher ac Issachar, gyda'r pentrefi o'u cwmpas, wedi eu rhoi i lwyth Manasse: Beth-shean, Ibleam, Dor, En-dor, Taanach, a Megido, (Naffeth ydy'r drydedd yn y rhestr).
12. Ond wnaeth dynion Manasse ddim llwyddo i goncro'r trefi yma. Roedd y Canaaneaid yn dal i wrthod symud.