Josua 16:7-10 beibl.net 2015 (BNET)

7. Wedyn roedd yn mynd i lawr o Ianoach i Ataroth a Naära cyn cyffwrdd Jericho a mynd ymlaen at yr Afon Iorddonen.

8. O Tappŵach roedd yn mynd i gyfeiriad y gorllewin i Ddyffryn Cana, ac yna at y Môr.Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Effraim.

9. Roedd hefyd yn cynnwys rhai trefi oedd y tu mewn i diriogaeth Manasse, gyda'r pentrefi o'u cwmpas.

10. Ond wnaeth llwyth Effraim ddim gyrru allan y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser. Mae'r Canaaneaid yno yn dal i fyw gyda phobl Effraim hyd heddiw, ac yn cael eu gorfodi i weithio fel caethweision iddyn nhw.

Josua 16