Josua 14:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma gofnod o'r ffordd gafodd y tir yn Canaan ei rannu rhwng pobl Israel gan Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel.

2. Cafodd y tir ei rannu rhwng y naw llwyth a hanner drwy daflu coelbren, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

3. Roedd Moses wedi rhoi tir yr ochr arall i'r Afon Iorddonen i ddau lwyth a hanner, ond doedd e ddim wedi rhoi tir i lwyth Lefi.

4. Roedd disgynyddion Joseff, ar y llaw arall, yn cael eu cyfrif fel dau lwyth – Manasse ac Effraim. Doedd llwyth Lefi ddim i gael tir. Roedden nhw i gael rhai trefi arbennig i fyw ynddyn nhw, gyda'r tir o'u cwmpas yn borfa i'w hanifeiliaid.

5. Felly dyma bobl Israel yn rhannu'r tir yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

6. Pan oedden nhw yn Gilgal, dyma ddynion o lwyth Jwda yn mynd i weld Josua. Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad oedd yn siarad ar eu rhan, ac meddai, “Ti'n cofio beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, dyn Duw, amdanon ni'n dau, yn Cadesh-barnea.

7. Pedwar deg oed oeddwn i pan anfonodd Moses fi o Cadesh-barnea i ysbïo ar y wlad. A dyma fi'n rhoi adroddiad cwbl onest iddo pan ddes i yn ôl.

8. Roedd y dynion eraill aeth gyda ni wedi dychryn y bobl a gwneud iddyn nhw ddigalonni. Ond roeddwn i wedi aros yn ffyddlon i'r ARGLWYDD fy Nuw.

Josua 14