Josua 13:28-31 beibl.net 2015 (BNET)

28. Roedd y tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Gad, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.

29. Dyma'r tir roedd Moses wedi ei roi i deuluoedd hanner llwyth Manasse:

30. Roedd eu tiriogaeth nhw yn ymestyn tua'r gogledd o MachanaƮm, ac yn cynnwys teyrnas Og, brenin Bashan, i gyd. Roedd yn cynnwys y chwe deg o drefi yn Hafoth-jair yn Bashan,

31. hanner Gilead, a trefi Ashtaroth ac Edrei (sef y trefi lle roedd Og, brenin Bashan, wedi bod yn teyrnasu). Cafodd y tir yma i gyd ei roi i ddisgynyddion Machir fab Manasse, sef teuluoedd hanner llwyth Manasse.

Josua 13