2. a'r brenhinoedd oedd yn teyrnasu yn y bryniau i'r gogledd, yn Nyffryn Iorddonen i'r de o Lyn Galilea, ar yr iseldir ac ar arfordir Dor yn y gorllewin.
3. Daeth Canaaneaid o gyfeiriad y dwyrain a'r gorllewin, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, a Jebwsiaid o'r bryniau, a Hefiaid o'r ardal wrth droed Mynydd Hermon yn Mitspa.
4. Daeth y brenhinoedd yma i gyd allan gyda'i byddinoedd – roedd gormod ohonyn nhw i'w cyfrif! Roedden nhw fel y tywod ar lan y môr! Ac roedd ganddyn nhw lot fawr o geffylau a cherbydau rhyfel.
5. Daethon nhw i gyd at ei gilydd wrth Ddyfroedd Merom, i ymladd yn erbyn Israel.
6. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Paid bod ag ofn. Erbyn tua'r adeg yma yfory bydda i wedi gwneud yn siŵr eu bod nhw i gyd yn gorwedd yn farw o flaen Israel. Gwna eu ceffylau yn gloff, a llosga eu cerbydau rhyfel.”
7. Felly dyma Josua a'i fyddin yn ymosod arnyn nhw yn ddi-rybudd wrth Ddyfroedd Merom.
8. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r fuddugoliaeth i fyddin Israel. Ac aeth byddin Israel ar eu holau yr holl ffordd i Sidon a Misreffoth-maim, a hefyd Dyffryn Mitspe yn y dwyrain, a'i taro nhw i lawr. Wnaethon nhw adael neb ar ôl yn fyw.
9. Wedyn dyma Josua yn gwneud y ceffylau'n gloff ac yn llosgi'r cerbydau rhyfel, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.
10. Wedyn dyma Josua yn troi yn ôl a concro tref Chatsor a lladd y brenin yno. (Chatsor oedd wedi bod yn arwain y teyrnasoedd yma i gyd.)
11. Dyma nhw'n lladd pawb yno – gafodd yr un enaid byw ei adael ar ôl. Yna dyma nhw'n llosgi'r dref.
12. Aeth Josua yn ei flaen i goncro'r trefi brenhinol i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw, yn union fel roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi gorchymyn.
13. Ond wnaeth pobl Israel ddim llosgi unrhyw un o'r trefi hynny oedd wedi ei hadeiladu ar garnedd. Chatsor oedd yr unig un gafodd ei llosgi.