Josua 11:12-23 beibl.net 2015 (BNET)

12. Aeth Josua yn ei flaen i goncro'r trefi brenhinol i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw, yn union fel roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi gorchymyn.

13. Ond wnaeth pobl Israel ddim llosgi unrhyw un o'r trefi hynny oedd wedi ei hadeiladu ar garnedd. Chatsor oedd yr unig un gafodd ei llosgi.

14. Cymerodd pobl Israel bopeth gwerthfawr o'r trefi, a chadw'r anifeiliaid. Ond cafodd y boblogaeth i gyd eu lladd – adawyd neb yn fyw.

15. Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi dweud wrth Josua beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn, a dyna wnaeth Josua. Gwnaeth bopeth oedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Moses.

16. Llwyddodd Josua i goncro'r wlad gyfan, gan gynnwys y bryniau a'r iseldir yn y de, y Negef, tir Gosen, Dyffryn Iorddonen, a bryniau ac iseldir Israel yn y gogledd hefyd.

17. Concrodd bobman o fynydd Halac sydd i gyfeiriad Edom yn y de, yr holl ffordd i Baal-gad yn y dyffryn rhwng Mynydd Hermon a bryniau Libanus. Daliodd bob un o'u brenhinoedd, a'u lladd.

18. Roedd Josua wedi bod yn rhyfela yn erbyn y brenhinoedd yma am amser hir iawn.

19. Wnaeth neb ohonyn nhw gytundeb heddwch gyda phobl Israel (ar wahân i'r Hefiaid yn Gibeon). Roedd rhaid i bobl Israel frwydro yn eu herbyn nhw i gyd.

20. Roedd yr ARGLWYDD ei hun wedi eu gwneud nhw'n ystyfnig, er mwyn iddyn nhw frwydro yn erbyn Israel. Roedd e eisiau i Israel eu dinistrio nhw'n llwyr, yn gwbl ddidrugaredd, fel roedd e wedi gorchymyn i Moses.

21. Yn ystod y cyfnod yma, llwyddodd Josua a'i fyddin i ddinistrio disgynyddion Anac hefyd, oedd yn byw yn y bryniau – yn Hebron, Debir, Anab, a gweddill bryniau Jwda ac Israel. Lladdodd Josua nhw i gyd, a dinistrio eu trefi.

22. Doedd neb o ddisgynyddion Anac ar ôl lle mae pobl Israel yn byw. Ond roedd rhai yn dal ar ôl yn Gasa, Gath ac Ashdod.

23. Felly roedd Josua wedi concro'r wlad i gyd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Moses. A dyma Josua yn rhannu'r wlad rhwng y llwythau, ac yn rhoi eu tiriogaeth arbennig i bob un.Ac roedd heddwch yn y wlad.

Josua 11