Joel 2:22-28 beibl.net 2015 (BNET)

22. Anifeiliaid gwylltion, peidiwch bod ag ofn!Mae glaswellt yn tyfu eto ar y tir pori,ac mae ffrwythau'n tyfu ar y coed.Mae'r coed ffigys a'r gwinwydd yn llawn ffrwyth.

23. Dathlwch chithau, bobl Seion!Mwynhewch beth mae Duw wedi ei wneud!Mae wedi rhoi'r glaw cynnar i chi ar yr adeg iawn –rhoi'r glaw cynnar yn yr hydref,a'r glaw diweddar yn y gwanwyn, fel o'r blaen.

24. “Bydd y llawr dyrnu yn orlawn o ŷd,a'r cafnau yn gorlifo o sudd grawnwin ac olew olewydd.

25. Bydda i'n rhoi popeth wnaethoch chi ei golliyn ôl i chi – popeth wnaeth y locustiaid ei fwyta;y fyddin fawr wnes i ei hanfon yn eich erbyn chi.

26. Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta.Byddwch chi'n moli'r ARGLWYDD eich Duw,sydd wedi gwneud pethau mor wych ar eich rhan chi.Fydd fy mhobl byth eto'n cael eu cywilyddio.

27. Israel, byddi'n gwybod fy mod i gyda ti,ac mai fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw– yr unig Dduw sy'n bod.Fydd fy mhobl byth eto'n cael eu cywilyddio.”

28. “Ar ôl hynny, bydda i'n tywallt fy Ysbrydar y bobl i gyd.Bydd eich meibion a'ch merchedyn proffwydo;bydd dynion hŷn yn cael breuddwydion,a dynion ifanc yn cael gweledigaethau.

Joel 2