Joel 1:9-20 beibl.net 2015 (BNET)

9. Does neb yn gallu mynd ag offrwm o rawn i'r demlnac offrwm o ddiod i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD.Mae'r offeiriaid sydd i fod i wasanaethu'r ARGLWYDDyn galaru.

10. Mae'r caeau'n wag.Does dim byd yn tyfu ar y tir.Does dim cnydau ŷd na haidd,dim grawnwin i roi ei sudd,a dim olew o'r olewydd.

11. Mae'r ffermwyr wedi anobeithio,a'r rhai sy'n gofalu am y gwinllannoedd yn udo crïo.Does dim ŷd na haidd yn tyfu;mae'r cnydau i gyd wedi methu.

12. Mae'r gwinwydd wedi crino,ac mae'r coed olewydd wedi gwywo.Does dim pomgranadau,dim datys, a dim afalau.Mae'r coed ffrwythau i gyd wedi crino;Ac mae llawenydd y bobl wedi gwywo hefyd!

13. Chi'r offeiriaid, gwisgwch sachliain a dechrau galaru.Crïwch yn uchel, chi sy'n gwasanaethu wrth yr allor.Weision Duw, treuliwch y nos yn galaru mewn sachliain,am fod neb yn dod ag offrwm i'r deml.Does neb bellach yn dod ag offrwm o rawnnac offrwm o ddiod i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD.

14. Trefnwch ddiwrnod pan fydd pawb yn ymprydio;yn stopio gweithio, ac yn dod at ei gilydd i addoli Duw.Dewch a'r arweinwyr a phawb arall at ei gilyddi deml yr ARGLWYDD eich Duw;dewch yno i weddïo ar yr ARGLWYDD.

15. O na! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos!Mae'r Duw sy'n rheoli popeth yn dod i'n dinistrio ni!Bydd yn ddiwrnod ofnadwy!

16. Does gynnon ni ddim bwyd o'n blaenau,a dim byd i ddathlu'n llawen yn nheml Dduw!

17. Mae'r hadau wedi sychu yn y ddaear.Mae'r stordai'n wag a'r ysguboriau'n syrthio.Does dim cnydau i'w rhoi ynddyn nhw!

18. Mae'r anifeiliaid yn brefu'n daer.Mae'r gwartheg yn crwydro mewn dryswch,am fod dim porfa iddyn nhw.Mae hyd yn oed y defaid a'r geifr yn dioddef.

19. ARGLWYDD, dw i'n galw arnat ti am help.Mae'r tir pori fel petai tân wedi ei losgi;a fflamau wedi difetha'r coed i gyd.

20. Mae'r anifeiliaid gwylltion yn brefu arnat tiam fod pob ffynnon a nant wedi sychu,a thir pori'r anialwch wedi ei losgi gan dân.

Joel 1