7. Maen nhw wedi dinistrio'r coed gwinwydd,a does dim ar ôl o'r coed ffigys.Maen nhw wedi rhwygo'r rhisgl i ffwrdd,a gadael y canghennau'n wynion.
8. Wylwch, a nadu'n uchel,fel merch ifanc yn galaru mewn sachliainam fod y dyn roedd hi ar fin ei briodiwedi marw.
9. Does neb yn gallu mynd ag offrwm o rawn i'r demlnac offrwm o ddiod i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD.Mae'r offeiriaid sydd i fod i wasanaethu'r ARGLWYDDyn galaru.
10. Mae'r caeau'n wag.Does dim byd yn tyfu ar y tir.Does dim cnydau ŷd na haidd,dim grawnwin i roi ei sudd,a dim olew o'r olewydd.
11. Mae'r ffermwyr wedi anobeithio,a'r rhai sy'n gofalu am y gwinllannoedd yn udo crïo.Does dim ŷd na haidd yn tyfu;mae'r cnydau i gyd wedi methu.