1. Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Joel fab Pethwel.
2. Gwrandwch ar hyn chi arweinwyr;a phawb arall sy'n byw yn y wlad, daliwch sylw!Ydych chi wedi gweld y fath beth?Oes rhywbeth fel yma wedi digwydd erioed o'r blaen?
3. Dwedwch wrth eich plant am y peth.Gwnewch yn siŵr y bydd eich plant yn dweud wrth eu plant nhw,a'r rheiny wedyn wrth y genhedlaeth nesaf.
4. Mae un haid o locustiaid ar ôl y llallwedi dinistrio'r cnydau i gyd!Beth bynnag oedd wedi ei adael ar ôl gan un haidroedd yr haid nesaf yn ei fwyta!
5. Sobrwch, chi griw meddw, a dechrau crïo!Chi yfwyr gwin, dechreuwch udo!Does dim ar ôl! Mae'r gwin melyswedi ei gymryd oddi arnoch.
6. Mae byddin fawr bwerus yn ymosod ar y wlad –gormod ohonyn nhw i'w cyfrif!Mae ganddyn nhw ddannedd fel llewneu lewes yn rhwygo'r ysglyfaeth.