Joel 1:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Joel fab Pethwel.

2. Gwrandwch ar hyn chi arweinwyr;a phawb arall sy'n byw yn y wlad, daliwch sylw!Ydych chi wedi gweld y fath beth?Oes rhywbeth fel yma wedi digwydd erioed o'r blaen?

3. Dwedwch wrth eich plant am y peth.Gwnewch yn siŵr y bydd eich plant yn dweud wrth eu plant nhw,a'r rheiny wedyn wrth y genhedlaeth nesaf.

4. Mae un haid o locustiaid ar ôl y llallwedi dinistrio'r cnydau i gyd!Beth bynnag oedd wedi ei adael ar ôl gan un haidroedd yr haid nesaf yn ei fwyta!

5. Sobrwch, chi griw meddw, a dechrau crïo!Chi yfwyr gwin, dechreuwch udo!Does dim ar ôl! Mae'r gwin melyswedi ei gymryd oddi arnoch.

Joel 1