1. Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Joel fab Pethwel.
2. Gwrandwch ar hyn chi arweinwyr;a phawb arall sy'n byw yn y wlad, daliwch sylw!Ydych chi wedi gweld y fath beth?Oes rhywbeth fel yma wedi digwydd erioed o'r blaen?
3. Dwedwch wrth eich plant am y peth.Gwnewch yn siŵr y bydd eich plant yn dweud wrth eu plant nhw,a'r rheiny wedyn wrth y genhedlaeth nesaf.
4. Mae un haid o locustiaid ar ôl y llallwedi dinistrio'r cnydau i gyd!Beth bynnag oedd wedi ei adael ar ôl gan un haidroedd yr haid nesaf yn ei fwyta!