Job 9:25-30 beibl.net 2015 (BNET)

25. Mae dyddiau fy mywyd yn mynd heibio'n gynt na rhedwr;yn rhuthro i ffwrdd heb i mi weld hapusrwydd.

26. Maen nhw'n llithro heibio fel cychod brwyn,neu fel eryr yn disgyn ar ei ysglyfaeth.

27. Os dweda i, ‘Dw i'n mynd i stopio cwyno,dw i am wenu a bod yn hapus,’

28. dw i'n dychryn wrth feddwl beth fydda i'n ei ddiodde nesa.Dw i'n gwybod wnei di ddim gadael i mi fynd!

29. Dw i'n cael fy nghyfri'n euog beth bynnag,felly beth ydy'r pwynt ymdrechu?

30. Petawn i'n ymolchi â sebon,ac yn sgwrio fy nwylo â soda,

Job 9