Job 9:18-24 beibl.net 2015 (BNET)

18. Dydy e ddim yn rhoi cyfle i mi ddal fy ngwynt,dim ond fy llenwi â gwenwyn chwerw!

19. Os mai prawf cryfder ydy hyn – fe ydy'r Un cry!Os mai cwestiwn o bwy sy'n iawn – pwy sy'n mynd i'w alw e i'r llys?

20. Er fy mod i'n ddieuog, byddai fy ngeiriau'n fy nghondemnio i;Er fy mod i'n ddi-fai, byddai e'n dangos i mi fy mod yn euog.

21. Dydw i ddim ar fai,ond dw i'n poeni dim beth fydd yn digwydd i mi;dw i wedi cael llond bol ar fywyd!

22. ‘Does dim gwahaniaeth!’, dyna dw i'n ddweud,‘Mae e'n dinistrio'r di-fai a'r euog fel ei gilydd.’

23. Pan mae ei chwip yn dod â marwolaeth sydyn,mae e'n chwerthin ar anobaith y dieuog.

24. Mae'r tir wedi ei roi yn nwylo pobl ddrwg,ac mae Duw'n rhoi mwgwd dros lygaid ei barnwyr.Os nad fe sy'n gwneud hyn, yna pwy sydd?

Job 9