Job 7:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pam mae bywyd dyn ar y ddaear mor galed?Mae ei ddyddiau fel dyddiau gwas cyflog –

2. fel caethwas yn dyheu am gysgod,neu was cyflog yn disgwyl am ei dâl.

3. Mis ar ôl mis o fyw dibwrpas,a nosweithiau diddiwedd o dristwch.

4. Pan dw i'n gorwedd i lawr, dw i'n meddwl,‘Pryd dw i'n mynd i fedru codi?’Mae'r nos yn llusgo'n araf,a dw i'n troi a throsi nes iddi wawrio.

5. Mae briwiau a chrachod dros fy nghorff i gyd;mae'r croen wedi cracio ac yn casglu.

6. Mae dyddiau fy mywyd wedi hedfan fel gwennol gwehydd,ac yn dod i ben mewn anobaith.

7. O Dduw, cofia mai anadl ydy fy mywyd!Wna i ddim profi pleser byth eto.

8. Fydd y llygaid sy'n edrych arna i yn fy ngweld i ddim mwy;bydda i wedi diflannu mewn chwinciad.

9. Fel cwmwl yn chwalu ac yn diflannu,dydy'r un sy'n mynd i'r bedd byth yn dod yn ôl i fyny;

10. fydd e byth yn mynd adre eto;a fydd y lle roedd yn byw ddim yn ei gofio.

Job 7