Job 6:18-29 beibl.net 2015 (BNET)

18. Mae carafanau camelod yn gadael eu llwybr,ac yn troi am y tir anial, ond mae'r ffrwd wedi mynd.

19. Mae carafanau Tema yn chwilio am y dŵr,a marchnatwyr Sheba yn gobeithio dod o hyd iddo.

20. Maen nhw mor hyderus, ond byddan nhw'n cael eu siomi;byddan nhw'n cyrraedd y lle, ac yn sefyll yno'n syfrdan.

21. Ac felly dych chi! Fel nant wedi sychu, yn dda i ddim!Dych chi'n gweld fy helynt, ac yn cael eich dychryn.

22. Ydw i wedi dweud, ‘Rhowch rodd i mi!’neu, ‘Talwch gildwrn drosto i o'ch cyfoeth’?

23. ‘Achubwch fi o afael y gelyn!’neu, ‘Rhyddhewch fi o afael y gormeswyr!’?

24. Dangoswch i mi beth wnes i, a bydda i'n tewi;Esboniwch i mi beth wnes i o'i le!

25. Mae geiriau gonest yn gallu bod yn greulon!Ond beth mae'ch cerydd chi yn ei brofi?

26. Ydy hi'n iawn i chi geryddu â'ch geiriauwrth gyhuddo dyn diobaith o siarad gwag?

27. Mae fel gamblo gyda bywyd yr amddifad,neu roi bywyd eich cyfaill ar ocsiwn!

28. Nawr dewch! Edrychwch arna i!Fyddwn i'n dweud celwydd yn eich wynebau chi?

29. Dewch! Plîs peidiwch bod mor annheg!Meddyliwch eto! Mae fy ngonestrwydd i yn y fantol.

Job 6