Job 5:17-27 beibl.net 2015 (BNET)

17. Mae'r rhai mae Duw'n eu ceryddu wedi eu bendithio'n fawr;felly paid gwrthod disgyblaeth y Duw sy'n rheoli popeth!

18. Mae e yn anafu, ond hefyd yn rhwymo'r anaf;Mae'n dolurio, ond mae ei ddwylo hefyd yn iacháu.

19. Bydd yn dy achub rhag un trychineb ar ôl y llall;chei di ddim niwed byth.

20. Mewn newyn bydd yn dy ryddhau o afael marwolaeth,ac mewn rhyfel, o afael y cleddyf.

21. Byddi'n cael dy amddiffyn rhag y tafod maleisus;a fyddi di ddim yn ofni dinistr pan ddaw yn agos.

22. Byddi'n gwawdio dinistr a newyn,a fydd gen ti ddim ofn anifeiliaid gwylltion.

23. Bydd cerrig yn cytuno i gadw draw o dy dir,a fydd anifeiliaid gwylltion ddim yn ymosod arnat ti.

24. Byddi'n gwybod fod dy gartref yn ddiogel,ac wrth archwilio dy anifeiliaid, fydd dim un ar goll.

25. Byddi'n siŵr o gael llawer iawn o blant;bydd dy ddisgynyddion fel glaswellt ar y tir.

26. Byddi mewn oedran mawr pan gyrhaeddi'r bedd,fel ysgub o wenith yn cael ei gasglu yn ei dymor.

27. Edrych! Dŷn ni wedi astudio hyn yn fanwl, ac mae'n wir.Felly gwrando, a meddylia sut mae'n berthnasol i ti.”

Job 5