Job 5:1-16 beibl.net 2015 (BNET)

1. Galw am help! Fydd rhywun yn dy ateb di?At ba un o'r angylion sanctaidd wyt ti'n mynd i droi?

2. Mae'r ffŵl byrbwyll yn marw o ddiffyg amynedd,a'r person dwl pan mae'n dal dig.

3. Dw i wedi gweld y ffŵl yn llwyddo a gwreiddio,ond yna'n sydyn roedd ei gartre wedi ei felltithio.

4. Dydy ei blant byth yn saff –byddan nhw'n colli'r achos yn y llys, heb neb i'w hachub.

5. Bydd pobl newynog yn bwyta ei gnydau,a'i gario i ffwrdd i'w guddio;a'r rhai sy'n llwgu yn ysu am ei gyfoeth.

6. Dydy profiadau drwg ddim yn tyfu o'r pridd,na thrafferthion yn egino o'r ddaear;

7. ond mae pobl yn cael eu geni i drafferthion,mor siŵr ag mae gwreichion yn hedfan i fyny.

8. Petawn i'n ti, byddwn i'n troi at Dduw,ac yn gosod fy achos o'i flaen.

9. Mae e'n gwneud pethau mawr, tu hwnt i'n deall ni,cymaint o bethau rhyfeddol, ni ellir eu cyfri!

10. Mae e'n anfon glaw i'r ddaear,ac yn dyfrio'r caeau.

11. Mae e'n codi'r rhai sy'n isel,ac yn gwneud y rhai sy'n galaru yn ddiogel.

12. Mae e'n drysu cynlluniau'r cyfrwys,i'w hatal rhag llwyddo.

13. Mae'n gwneud i glyfrwch pobl eu baglu nhw;mae cynlluniau'r cyfrwys yn mynd o chwith.

14. Maen nhw'n cael eu hunain mewn tywyllwch yng ngolau dydd,ac yn ymbalfalu ganol dydd fel petai'n nos!

15. Ond mae e'n achub y tlawd rhag eu geiriau creulon,a'r anghenus o afael y rhai cryf.

16. Felly mae gobaith i'r tlawd,ac mae anghyfiawnder yn gorfod tewi!

Job 5