Job 41:1-15 beibl.net 2015 (BNET)

1. Alli di ddal y Lefiathan â bachyn pysgota?Alli di rwymo ei dafod â rhaff?

2. Alli di roi cylch yn ei drwyn,neu wthio bachyn drwy ei ên?

3. Fydd e'n pledio'n daer am drugaredd?Fydd e'n seboni wrth siarad gyda ti?

4. Fydd e'n ceisio dod i gytundeb,ac addo bod yn gaethwas i ti am byth?

5. Alli di chwarae gydag e fel aderyn,neu ei rwymo i ddifyrru dy forynion?

6. Fydd pysgotwyr yn bargeinio amdano?Fydd e'n cael ei rannu rhwng y masnachwyr?

7. Alli di drywanu ei groen gyda phicellau,neu roi bachau pysgota yn ei geg?

8. Gafael ynddo, a dychmyga'r frwydr –fyddet ti ddim yn gwneud yr un peth eto!

9. Pam? Am nad oes gobaith ei ddal;mae hyd yn oed ei olwg yn torri calon rhywun.

10. Does neb yn ddigon dewr i ddeffro hwn,felly pwy sy'n mynd i sefyll yn fy erbyn i?

11. Pwy sydd wedi rhoi i mi nes bod dyled arna i iddo?Fi sydd biau popeth dan y nef!

12. Dw i ddim am fod yn dawel am ei goesau,ei gryfder, a'i gorff gosgeiddig.

13. Pwy sy'n gallu tynnu ei got oddi arno,neu drywanu ei arfwisg blethog?

14. Pwy sy'n gallu gwthio ei geg ar agor?Mae'r dannedd sydd o'i chwmpas yn frawychus.

15. Mae ei gefn fel rhesi o darianau,wedi eu cloi i'w gilydd gan sêl.

Job 41