Job 40:17-24 beibl.net 2015 (BNET)

17. Mae'n codi ei gynffon fel coeden gedrwydd;mae gewynnau ei gluniau wedi eu gweu i'w gilydd.

18. Mae ei esgyrn fel pibellau pres,a'i goesau fel barrau haearn.

19. Dyma'r creadur cryfaf a greodd Duw;dim ond ei Grëwr all dynnu'r cleddyf a'i ladd.

20. Y bryniau sy'n rhoi bwyd iddo,ble mae'r holl anifeiliaid gwylltion eraill yn chwarae.

21. Mae'n mynd i orwedd dan y llwyn deiliog,o'r golwg yng nghanol brwyn y gors.

22. Mae'r llwyn yn ei guddio dan ei gysgod;a'r coed helyg sydd o'i gwmpas ger y nant.

23. Dydy e ddim yn dychryn pan mae'r afon wedi chwyddo;mae'n ddigyffro wrth i ddŵr yr Iorddonen ruthro drosto.

24. All unrhyw un ei ddal tra mae'n gwylio,neu wthio bachyn drwy ei drwyn?

Job 40