Job 40:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Job.

2. “Ydy'r un sy'n dadlau gyda'r Hollalluog am ddal i'w gywiro?Beth am i ti sy'n beirniadu Duw roi ateb i mi!”

3. A dyma Job yn ateb:

4. “Mae'n wir, dw i'n neb. Beth alla i ddweud?Dw i'n mynd i gadw'n dawel.

5. Dw i wedi siarad gormod, ac alla i ddim ateb eto.Dw i am ddweud dim mwy.”

6. Yna dyma'r ARGLWYDD yn ateb Job o'r storm ac yn dweud:

7. “Torcha dy lewys fel dyn!Gofynna i gwestiynau, a cei di ateb.

8. Wyt ti'n gwadu fy mod i'n Dduw cyfiawn?Wyt ti'n fy nghondemnio i er mwyn profi mai ti sy'n iawn?

9. Wyt ti mor gryf ag ydw i?Ydy dy lais di'n gallu taranu fel fy llais i?

10. Os felly, addurna dy hun ag anrhydedd a mawrhydi.Gwisga dy hun ag ysblander ac urddas.

Job 40