Job 39:16-26 beibl.net 2015 (BNET)

16. Mae'n trin ei chywion yn greulon,fel petaen nhw ddim yn perthyn iddi;dydy hi'n poeni dim y gallai ei llafur fod yn ofer.

17. Gadawodd Duw hi heb ddoethineb,roddodd e ddim mymryn o ddeall iddi.

18. Ond pan mae'n codi a dechrau rhedeg,mae'n chwerthin am ben y ceffyl a'i farchog!

19. Ai ti sy'n rhoi cryfder i geffyl?Ai ti wisgodd ei wddf â'r mwng?

20. Ai ti sy'n gwneud iddo neidio fel y locust,a chreu dychryn wrth weryru?

21. Mae'n curo llawr y dyffryn â'i garnau,ac yn rhuthro'n frwd i'r frwydr.

22. Does ganddo ddim ofn; does dim yn ei ddychryn;dydy e ddim yn cilio oddi wrth y cleddyf.

23. Mae llond cawell o saethau'n chwyrlïo heibio iddo,a'r waywffon a'r cleddyf yn fflachio.

24. Mae'n llawn cynnwrf, ac yn carlamu'n wyllt;mae'n methu aros yn llonydd pan mae'r corn hwrdd yn seinio.

25. Mae'n synhwyro'r frwydr o bell;mae'n gweryru wrth glywed y corn hwrdd,a gwaedd swyddogion yn bloeddio gorchmynion.

26. Ai dy ddoethineb di sy'n gwneud i'r hebog hedfan,a lledu ei adenydd i droi tua'r de?

Job 39