Job 37:5-13 beibl.net 2015 (BNET)

5. Mae sŵn llais Duw'n taranu yn rhyfeddol!Ac mae'n gwneud pethau gwyrthiol, tu hwnt i'n deall ni.

6. Mae'n dweud wrth yr eira, ‘Disgyn ar y ddaear!’neu wrth y glaw trwm, ‘Arllwys i lawr!’

7. Mae'n stopio pawb rhag gweithio,mae pobl yn gorfod sefyll yn segur.

8. Mae anifeiliaid yn mynd i gysgodi,ac i guddio yn eu gwâl.

9. Mae'r corwynt yn codi o'r de,ac oerni o wyntoedd y gogledd.

10. Anadl Duw sy'n dod â rhew,ac mae'r llynnoedd yn rhewi'n galed.

11. Mae'n llenwi'r cymylau trwchus â gwlybaniaethac yn anfon mellt ar wasgar o'r cymylau.

12. Mae'n gwneud i'r cymylau droi a throelli,ac yn gwneud beth mae Duw'n ei orchymyndros wyneb y ddaear i gyd.

13. Mae'n gwneud hyn naill ai i gosbi'r tir,neu i ddangos ei gariad ffyddlon.

Job 37