Job 36:24-33 beibl.net 2015 (BNET)

24. Cofia mai dy le di ydy canmol ei waith,sef y rheswm mae pobl yn ei foli ar gân.

25. Mae'r ddynoliaeth i gyd wedi gweld ei waith,mae pobl feidrol yn syllu arno o bell.

26. Ydy, mae Duw yn fawr – y tu hwnt i'n deall ni;does dim modd cyfri hyd ei oes e!

27. Mae'n codi dafnau o ddŵrsy'n diferu'n law mân fel tarth.

28. Mae'r cymylau'n tywallt y glaw,mae'n arllwys yn gawodydd ar y ddaear.

29. Oes rhywun yn deall sut mae'r cymylau'n lledu,a'r taranau sydd yn ei bafiliwn?

30. Edrych, mae'r mellt yn lledu o'i gwmpas,ac yn goleuo gwaelod y môr.

31. Dyma sut mae'n barnu'r cenhedloedd,ac yn rhoi digonedd o fwyd iddyn nhw.

32. Mae'n dal y mellt yn ei ddwylo,ac yn gwneud iddyn nhw daro'r targed.

33. Mae sŵn ei daranau'n dweud ei fod yn dodmewn storm, yn angerdd ei lid.

Job 36