Job 36:23-30 beibl.net 2015 (BNET)

23. Pwy sy'n dweud wrtho beth i'w wneud?Pwy sy'n gallu dweud, ‘Ti wedi gwneud peth drwg’?

24. Cofia mai dy le di ydy canmol ei waith,sef y rheswm mae pobl yn ei foli ar gân.

25. Mae'r ddynoliaeth i gyd wedi gweld ei waith,mae pobl feidrol yn syllu arno o bell.

26. Ydy, mae Duw yn fawr – y tu hwnt i'n deall ni;does dim modd cyfri hyd ei oes e!

27. Mae'n codi dafnau o ddŵrsy'n diferu'n law mân fel tarth.

28. Mae'r cymylau'n tywallt y glaw,mae'n arllwys yn gawodydd ar y ddaear.

29. Oes rhywun yn deall sut mae'r cymylau'n lledu,a'r taranau sydd yn ei bafiliwn?

30. Edrych, mae'r mellt yn lledu o'i gwmpas,ac yn goleuo gwaelod y môr.

Job 36