Job 34:18-27 beibl.net 2015 (BNET)

18. sy'n dweud wrth frenin, ‘Y pwdryn diwerth!’ac wrth wŷr bonheddig, ‘Y cnafon drwg!’?

19. Dydy e ddim yn ochri gyda thywysogion,nac yn ffafrio'r cyfoethog ar draul y tlawd;am mai gwaith ei ddwylo e ydyn nhw i gyd!

20. Maen nhw'n marw yn sydyn yng nghanol y nos;mae'r bobl fawr yn cael eu hysgwyd, ac yn diflannu;mae'r pwerus yn cael eu symud o'r ffordd yn hawdd.

21. Mae e'n cadw golwg ar beth maen nhw'n ei wneud;mae'n gwybod am bob symudiad.

22. Does dim tywyllwch na chwmwllle gall pobl ddrwg guddio.

23. Nid lle pobl ydy gosod amseri ddod o flaen Duw i gael eu barnu!

24. Mae'n dryllio arweinwyr heb gynnal ymchwiliad,ac yn gosod eraill i gymryd eu lle.

25. Am ei fod yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud,mae'n eu dymchwel dros nos, a'u dryllio.

26. Mae'n eu taro nhw i lawr fel pobl ddrwg,ac yn gwneud hynny o flaen pawb,

27. am eu bod nhw wedi bod yn anffyddlon iddo,a gwrthod cymryd sylw o'i ffyrdd.

Job 34