Job 33:13-24 beibl.net 2015 (BNET)

13. Pam wyt ti'n dadlau yn ei erbyn?Oes rhaid iddo ateb pob cwestiwn?

14. Mae Duw yn siarad mewn un ffordd un tro,ac mewn ffordd wahanol dro arall –ond er hynny dydy pobl ddim yn deall.

15. Mewn breuddwyd, neu weledigaeth yn y nos,pan mae pobl yn cysgu'n drwm;pan maen nhw'n gorwedd ar eu gwlâu.

16. Mae e'n gwneud i bobl wrando –yn eu dychryn nhw gyda rhybudd

17. i beidio gwneud rhywbeth,a'u stopio nhw rhag bod mor falch.

18. Mae'n achub bywyd rhywun o bwll y bedd,rhag iddo groesi afon marwolaeth.

19. Mae'n disgyblu un sy'n sâl yn ei welya chryndod di-baid drwy ei esgyrn.

20. Mae bwyd yn codi cyfog arno;does ganddo awydd dim byd blasus.

21. Mae wedi colli cymaint o bwysau,nes bod ei esgyrn i gyd yn y golwg.

22. Mae'n agos iawn at y bedd,bron â'i gipio gan negeswyr marwolaeth.

23. Ond os daw angel at ei ochr(dim ond un o'i blaid, un o blith y mil)i ddadlau ei hawl drosto –

24. yna bydd Duw yn drugarog wrtho.‘Achubwch e rhag mynd i lawr i'r bedd;dw i wedi cael y pris i'w ollwng yn rhydd.’

Job 33