Job 31:6-23 beibl.net 2015 (BNET)

6. Dylai fy mhwyso i ar glorian sy'n gywir,iddo weld fy mod i'n gwbl ddieuog.

7. Os ydw i wedi crwydro o'i ffyrdda gadael i'm llygaid ddenu'r galon,neu os oes staen drygioni ar fy nwylo,

8. yna boed i eraill fwyta'r cynhaeaf wnes i ei hau,ac i'r cnwd a blennais gael ei ddinistrio!

9. Os cafodd fy nghalon ei hudo gan wraig rhywun arall,a minnau'n dechrau loetran wrth ddrws ei thŷ,

10. boed i'm gwraig i falu blawd i ddyn arall,a boed i ddynion eraill orwedd gyda hi!

11. Am i mi wneud peth mor ffiaidd –pechod sy'n haeddu ei gosbi.

12. Mae fel tân sy'n dinistrio'n llwyr,ac yn llosgi fy eiddo i gyd.

13. Ydw i wedi diystyru cwyn caethwasneu forwyn yn fy erbyn erioed?

14. Beth wnawn i pe byddai Duw yn codii edrych ar y mater? Sut fyddwn i'n ei ateb?

15. Onid Duw greodd nhw, fel fi, yn y groth?Onid yr un Duw sy wedi'n gwneud ni i gyd?

16. Ydw i wedi gwrthod helpu'r tlawd,neu siomi'r weddw oedd yn disgwyl rhywbeth?

17. Ydw i wedi bwyta ar fy mhen fy hun,a gwrthod ei rannu gyda'r amddifad?

18. Na, dw i wedi ei fagu fel tad bob amser,a helpu'r weddw ar hyd fy mywyd.

19. Wnes i erioed adael neb yn rhewi heb ddillad,na gadael rhywun tlawd heb got.

20. Bydden nhw'n diolch i mi o waelod calonwrth i wlân fy nefaid eu cadw'n gynnes.

21. Os gwnes i fygwth yr amddifad,wrth weld fod gen i gefnogaeth yn y llys,

22. yna boed i'm hysgwydd gael ei thynnu o'i lle,a'm braich gael ei thorri wrth y penelin.

23. Roedd gen i ofn i Dduw anfon dinistr;allwn i byth wynebu ei fawredd!

Job 31