Job 31:3-10 beibl.net 2015 (BNET)

3. Onid i'r annuwiol mae dinistr yn cael ei roi,a thrychineb i'r un sy'n gwneud drwg?

4. Ydy e ddim wedi gweld sut dw i wedi byw?Ydy e ddim wedi gwylio pob cam?

5. Ydw i wedi cymysgu gyda'r rhai celwyddog?Neu wedi bod yn rhy barod i dwyllo?

6. Dylai fy mhwyso i ar glorian sy'n gywir,iddo weld fy mod i'n gwbl ddieuog.

7. Os ydw i wedi crwydro o'i ffyrdda gadael i'm llygaid ddenu'r galon,neu os oes staen drygioni ar fy nwylo,

8. yna boed i eraill fwyta'r cynhaeaf wnes i ei hau,ac i'r cnwd a blennais gael ei ddinistrio!

9. Os cafodd fy nghalon ei hudo gan wraig rhywun arall,a minnau'n dechrau loetran wrth ddrws ei thÅ·,

10. boed i'm gwraig i falu blawd i ddyn arall,a boed i ddynion eraill orwedd gyda hi!

Job 31