6. Maen nhw'n byw ar waelod ceunentydd,mewn tyllau yn y ddaear ac ogofâu.
7. Maen nhw'n brefu fel anifeiliaid yng nghanol y chwyn,ac yn swatio gyda'i gilydd dan y llwyni.
8. Pobl ddwl a da i ddim,wedi eu gyrru i ffwrdd o gymdeithas.
9. Ond bellach dw i'n gocyn hitio iddyn nhw;ac yn ddim byd ond testun sbort.
10. Maen nhw'n fy ffieiddio i, ac yn cadw draw oddi wrtho i;ac yn poeri'n fy wyneb heb feddwl ddwywaith.
11. Am fod Duw wedi datod llinyn fy mwa a'm poenydio i,maen nhw'n ymosod arna i yn ddi-stop.
12. Fel gang o lanciau'n codi twrw ar un ochr,i'm bwrw oddi ar fy nhraed;maen nhw'n codi rampiau i warchae a dinistrio.
13. Maen nhw'n sefyll ar fy llwybr i'm rhwystro,ac yn llwyddo i'm llorio,heb angen unrhyw help.
14. Fel byddin yn llifo drwy fwlch llydan;yn rholio i mewn wrth i'r waliau syrthio.
15. Mae dychryn yn dod drosta i,fel gwynt yn ysgubo fy urddas i ffwrdd;mae'r gobaith o ddianc wedi diflannu fel cwmwl.
16. Bellach mae fy enaid yn drist,a dyddiau dioddef wedi gafael ynof fi.
17. Mae poenau yn fy esgyrn drwy'r nos,a gewynnau'r corff yn cnoi'n ddi-baid.
18. Mae Duw wedi gafael yn dynn yn fy nillad,a'm tagu gyda choler fy nghrys.