Job 30:23-31 beibl.net 2015 (BNET)

23. Dw i'n gwybod fy mod i'n mynd i farw,a mynd i'r lle sydd wedi ei bennu i bopeth byw.

24. Wnes i erioed godi fy llaw i darorhywun oedd yn galw am help yn ei drybini!

25. Ro'n i'n wylo dros y rhai oedd yn cael amser caled,ac yn torri fy nghalon dros y tlawd.

26. Ond wrth ddisgwyl y da, ddaeth dim ond drwg;wrth edrych am olau, daeth tywyllwch.

27. Dw i'n corddi y tu mewn i mi,wrth wynebu dydd ar ôl dydd o ddioddef.

28. Mae fy nghroen wedi duo, ond nid yn yr haul;dw i'n sefyll yn y sgwâr ac yn pledio am help.

29. Dw i'n swnio fel brawd i'r siacal,neu gymar i'r estrys.

30. Mae fy nghroen wedi tywyllu,a'm corff drwyddo yn llosgi gan wres.

31. Felly mae fy nhelyn yn canu alaw drist,a'm ffliwt yn cyfeilio i'r rhai sy'n galaru.

Job 30