11. Am fod Duw wedi datod llinyn fy mwa a'm poenydio i,maen nhw'n ymosod arna i yn ddi-stop.
12. Fel gang o lanciau'n codi twrw ar un ochr,i'm bwrw oddi ar fy nhraed;maen nhw'n codi rampiau i warchae a dinistrio.
13. Maen nhw'n sefyll ar fy llwybr i'm rhwystro,ac yn llwyddo i'm llorio,heb angen unrhyw help.
14. Fel byddin yn llifo drwy fwlch llydan;yn rholio i mewn wrth i'r waliau syrthio.
15. Mae dychryn yn dod drosta i,fel gwynt yn ysgubo fy urddas i ffwrdd;mae'r gobaith o ddianc wedi diflannu fel cwmwl.
16. Bellach mae fy enaid yn drist,a dyddiau dioddef wedi gafael ynof fi.
17. Mae poenau yn fy esgyrn drwy'r nos,a gewynnau'r corff yn cnoi'n ddi-baid.
18. Mae Duw wedi gafael yn dynn yn fy nillad,a'm tagu gyda choler fy nghrys.
19. Mae e wedi fy nhaflu i'r mwd;dw i'n ddim byd ond llwch a lludw.
20. O Dduw, dw i'n gweiddi am dy help, ond does dim ateb;dw i'n sefyll o dy flaen, ond dwyt ti'n cymryd dim sylw.
21. Rwyt ti wedi troi mor greulon tuag ata i;a'm taro mor galed ac y medri.
22. Ti wedi fy nghodi ar y corwynt;a'm taflu o gwmpas yn y storm.
23. Dw i'n gwybod fy mod i'n mynd i farw,a mynd i'r lle sydd wedi ei bennu i bopeth byw.
24. Wnes i erioed godi fy llaw i darorhywun oedd yn galw am help yn ei drybini!
25. Ro'n i'n wylo dros y rhai oedd yn cael amser caled,ac yn torri fy nghalon dros y tlawd.
26. Ond wrth ddisgwyl y da, ddaeth dim ond drwg;wrth edrych am olau, daeth tywyllwch.
27. Dw i'n corddi y tu mewn i mi,wrth wynebu dydd ar ôl dydd o ddioddef.
28. Mae fy nghroen wedi duo, ond nid yn yr haul;dw i'n sefyll yn y sgwâr ac yn pledio am help.
29. Dw i'n swnio fel brawd i'r siacal,neu gymar i'r estrys.
30. Mae fy nghroen wedi tywyllu,a'm corff drwyddo yn llosgi gan wres.