7. O na fyddai'r noson honno wedi bod yn ddiffrwyth,heb sŵn neb yn dathlu'n llawen ynddi!
8. O na fyddai'r rhai sy'n dewino wedi melltithio'r diwrnod hwnnw –y rhai sy'n gallu deffro'r ddraig yn y môr!
9. O na fyddai'r sêr wedi diffodd y noson honno,a'r bore wedi disgwyl yn ofer am y golau,a heb weld pelydrau'r wawr –
10. am ei bod heb gloi drysau croth fy mam,a'm rhwystro rhag gweld trybini.
11. Pam wnes i ddim cael fy ngeni'n farw,neu ddarfod wrth ddod allan o'r groth?
12. Pam oedd gliniau yn disgwyl amdana i,a bronnau i mi ddechrau eu sugno?
13. Heb hynny byddwn yn gorwedd yn dawel,yn cysgu'n drwm a gorffwys yn y bedd,
14. gyda brenhinoedd a'u cynghorwyr,y rhai fu'n codi palasau sydd bellach yn adfeilion;
15. gydag arweinwyr oedd â digon o aur,ac wedi llenwi eu tai ag arian.
16. Pam na ches i fy nghuddio fel erthyl marw,neu fabi wnaeth ddim gweld y golau?
17. Yn y bedd mae holl brysurdeb pobl ddrwg wedi peidio,a'r gweithwyr oedd dan orthrwm yn cael gorffwys.
18. Mae caethion yn cael ymlacio'n llwyr,heb lais y meistri gwaith yn gweiddi.
19. Mae pobl fawr a chyffredin yno fel ei gilydd,a'r caethwas yn rhydd rhag ei feistr.
20. Pam mae Duw'n rhoi golau i'r un sy'n dioddef,a bywyd i'r rhai sy'n chwerw eu hysbryd?
21. Maen nhw'n ysu am gael marw, ond yn methu –yn chwilio am hynny yn fwy na thrysor cudd.
22. Maen nhw'n hapus, ac yn dathlu'n llawenpan maen nhw'n cyrraedd y bedd.
23. Pam rhoi bywyd i berson heb bwrpas,a'i gau i mewn rhag dianc o'i drybini?