4. O na fyddai'r diwrnod hwnnw yn dywyllwch,fel petai'r Duw sydd uchod heb erioed ei alw i fod,a golau dydd heb wawrio arno!
5. O na fyddai tywyllwch dudew yn ei guddio;a chwmwl yn gorwedd drosto,a'r düwch yn ei ddychryn i ffwrdd!
6. O na fyddai tywyllwch dudew wedi cipio'r noson honno,fel na fyddai'n cael ei chyfrif yn un o ddyddiau'r flwyddyn,ac na fyddai i'w gweld ar galendr y misoedd!
7. O na fyddai'r noson honno wedi bod yn ddiffrwyth,heb sŵn neb yn dathlu'n llawen ynddi!
8. O na fyddai'r rhai sy'n dewino wedi melltithio'r diwrnod hwnnw –y rhai sy'n gallu deffro'r ddraig yn y môr!
9. O na fyddai'r sêr wedi diffodd y noson honno,a'r bore wedi disgwyl yn ofer am y golau,a heb weld pelydrau'r wawr –
10. am ei bod heb gloi drysau croth fy mam,a'm rhwystro rhag gweld trybini.
11. Pam wnes i ddim cael fy ngeni'n farw,neu ddarfod wrth ddod allan o'r groth?
12. Pam oedd gliniau yn disgwyl amdana i,a bronnau i mi ddechrau eu sugno?
13. Heb hynny byddwn yn gorwedd yn dawel,yn cysgu'n drwm a gorffwys yn y bedd,