Job 3:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Job oedd y cyntaf i siarad, a melltithiodd y diwrnod y cafodd ei eni.

2. Dyma ddwedodd e:

3. “O na fyddai'r diwrnod y ces i fy ngeniyn cael ei ddileu o hanes! –y noson honno y dwedodd rhywun,‘Mae bachgen wedi ei eni!’

4. O na fyddai'r diwrnod hwnnw yn dywyllwch,fel petai'r Duw sydd uchod heb erioed ei alw i fod,a golau dydd heb wawrio arno!

5. O na fyddai tywyllwch dudew yn ei guddio;a chwmwl yn gorwedd drosto,a'r düwch yn ei ddychryn i ffwrdd!

6. O na fyddai tywyllwch dudew wedi cipio'r noson honno,fel na fyddai'n cael ei chyfrif yn un o ddyddiau'r flwyddyn,ac na fyddai i'w gweld ar galendr y misoedd!

7. O na fyddai'r noson honno wedi bod yn ddiffrwyth,heb sŵn neb yn dathlu'n llawen ynddi!

8. O na fyddai'r rhai sy'n dewino wedi melltithio'r diwrnod hwnnw –y rhai sy'n gallu deffro'r ddraig yn y môr!

9. O na fyddai'r sêr wedi diffodd y noson honno,a'r bore wedi disgwyl yn ofer am y golau,a heb weld pelydrau'r wawr –

10. am ei bod heb gloi drysau croth fy mam,a'm rhwystro rhag gweld trybini.

Job 3