1. Yna aeth Job yn ei flaen i ddweud:
2. “O na fyddai pethau fel yr oedden nhw o'r blaen,pan oedd Duw yn gofalu amdana i.
3. Roedd golau ei lamp uwch fy mhen,ac ro'n i'n cerdded drwy'r tywyllwch yn ei olau e.
4. Roedd popeth yn mynd yn iawn,ac roedd Duw fel ffrind agos i'r teulu.
5. Roedd yr Un sy'n rheoli popeth gyda mi bryd hynny,a'm plant i gyd o'm cwmpas i.
6. Ro'n i'n byw yn fras – ar ben fy nigon,roedd ffrydiau o olew yn llifo rhwng y meini.
7. Ro'n i'n cerdded drwy giât y ddinas,ac yn eistedd ar y cyngor yn y sgwâr.