14. Mae'r dyfnder yn dweud, ‘Dydy e ddim yma,’a'r môr yn dweud, ‘Dydy e ddim gen i.’
15. Does dim modd ei brynu gyda bar o aur,na thalu amdano drwy bwyso arian.
16. Ellir ddim ei brynu gydag aur Offir,nac onics gwerthfawr, na saffir chwaith.
17. Dydy aur na grisial ddim cystal,ac ni ellir ffeirio llestri o aur pur amdano.
18. Dydy cwrel a grisial ddim gwerth sôn amdanyn nhw;mae pris doethineb yn uwch na pherlau.
19. Dydy topas Affrica yn werth dim o'i gymharu,a dydy aur pur ddim yn ddigon i'w brynu.
20. O ble mae doethineb yn dod?Ym mhle mae deall i'w gael?
21. Mae wedi ei guddio oddi wrth bopeth byw,hyd yn oed yr adar yn yr awyr.
22. Mae Abadon a Marwolaeth yn dweud,‘Dŷn ni ond wedi clywed rhyw si amdano.’
23. Dim ond Duw sy'n gwybod sut i'w gyrraedd;Mae e'n gwybod o ble mae'n dod.
24. Mae e'n gweld i bedwar ban byd;mae'n gweld popeth sydd dan yr haul.
25. Pan benderfynodd pa mor gryf ydy'r gwynt,a mesur maint y dyfroedd;
26. pan osododd reolau i'r glawa llwybr i'r mellt a'r taranau,
27. gwelodd ddoethineb, a mesur ei werth;ei sefydlu a'i archwilio'n ofalus.