4. wna i byth ddweud gair o gelwydd,na siarad yn dwyllodrus.
5. Wna i byth gytuno mai chi sy'n iawn!Bydda i'n onest hyd fy medd –
6. Dw i'n dal i fynnu mai fi sy'n iawn;mae fy nghydwybod i'n glir!
7. Boed i'm gelyn gael ei drin fel un drwg;yr un sy'n ymosod arna i, fel yr anghyfiawn.
8. Pa obaith sydd i'r annuwiol pan mae'n marw,a Duw yn dwyn ei fywyd oddi arno?
9. Fydd Duw yn gwrando arno'n gweiddipan fydd mewn trafferthion?
10. Fydd e'n ymgolli yn yr Un sy'n rheoli popeth?Fydd e'n galw ar Dduw yn ddi-baid?
11. Dysgaf i i chi am nerth Duw,heb guddio dim o fwriad yr Un sy'n rheoli popeth.
12. Dych chi wedi gweld y peth eich hunain,felly pam dych chi'n dal i siarad y fath nonsens?
13. Dyma mae pobl ddrwg yn ei gael gan Dduw,a'r gormeswr yn ei dderbyn gan yr Un sy'n rheoli popeth:
14. Er iddo gael llawer o blant – cânt eu taro â'r cleddyf;fydd gan ei deulu ddim digon o fwyd.
15. Bydd y rhai sy'n goroesi yn marw o'r pla,a fydd dim amser i'r gweddwon alaru.
16. Er casglu pentwr o arian fel pridd,a thomen o ddillad fel baw –