Job 27:18-23 beibl.net 2015 (BNET)

18. Mae'r tŷ mae'n ei godi yn frau fel cocŵn gwyfyn,neu'r lloches dros dro mae'r gwyliwr yn ei greu.

19. Mae'n mynd i'w wely yn gyfoethog, ond am y tro olaf;pan fydd yn agor ei lygaid bydd y cwbl wedi mynd.

20. Mae dychryn yn dod drosto fel ffrydlif,a'r storm yn ei gipio yn y nos.

21. Mae gwynt y dwyrain yn ei godi a'i gymryd,a'i ysgubo i ffwrdd o'i le;

22. mae'n ei daro'n ddidrugareddwrth iddo drïo'i orau i ddianc o'i afael;

23. mae'n curo'i ddwylo'n wawdlyd,a chwibanu wrth ei yrru o'i le.

Job 27