Job 27:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna dyma Job yn mynd yn ei flaen i ddweud:

2. “Mor sicr â'i fod yn fyw, dydy Duw ddim wedi bod yn deg!Mae'r Un sy'n rheoli popeth wedi gwneud fy enaid yn chwerw!

3. Tra mae bywyd yn dal ynof i,ac anadl Duw yn fy ffroenau,

4. wna i byth ddweud gair o gelwydd,na siarad yn dwyllodrus.

5. Wna i byth gytuno mai chi sy'n iawn!Bydda i'n onest hyd fy medd –

6. Dw i'n dal i fynnu mai fi sy'n iawn;mae fy nghydwybod i'n glir!

7. Boed i'm gelyn gael ei drin fel un drwg;yr un sy'n ymosod arna i, fel yr anghyfiawn.

Job 27