Job 22:3-19 beibl.net 2015 (BNET)

3. Ydy'r Un sy'n rheoli popeth ar ei ennill os wyt ti'n ddieuog?Oes mantais iddo dy fod ti'n byw yn iawn?

4. Ydy e'n dy alw i gyfri am dy fod wedi byw'n dduwiol?Ai dyna pam mae e'n dy farnu di?

5. Na, mae'n rhaid dy fod wedi gwneud drwg,ac wedi pechu'n ddiddiwedd!

6. Wedi cymryd gwystl oddi ar bobl heb achos,a'u gadael nhw yn noeth, heb ddillad.

7. Wnest ti ddim rhoi dŵr i'r sychedig ei yfed,na bara i'w fwyta i bobl oedd yn newynu.

8. Roeddet ti'n ddyn pwerus, yn berchen tirac yn byw arno, ac mor freintiedig;

9. ond yn troi gweddwon i ffwrdd heb ddim,ac yn dwyn eu hawliau oddi ar blant amddifad.

10. Dyna pam rwyt ti wedi dy ddal yn y picil yma,ac yn sydyn yn cael dy hun mewn panig.

11. Mae hi mor dywyll arnat ti, alli di weld dim,ac mae'r llifogydd ar fin dy foddi di!

12. Ydy Duw ddim yn y nefoedd uchod?Edrych ar y sêr pellaf sy mor uchel!

13. Ond rwyt ti'n dweud, ‘Beth mae Duw'n ei wybod?Ydy e'n gallu barnu drwy'r cymylau duon?

14. Dydy e ddim yn gweld, am fod cymylau yn ei guddiowrth iddo gerdded o gwmpas yn entrychion y nefoedd!’

15. Wyt ti am ddilyn yr un hen ffordd dywyllmae pobl annuwiol wedi ei cherdded? –

16. Cawson nhw eu cipio i ffwrdd o flaen eu hamser,pan lifodd y dilyw dros eu sylfeini.

17. Roedden nhw'n dweud wrth Dduw, ‘Gad lonydd i ni!’a ‘Beth mae'r Un sy'n rheoli popeth yn gallu ei wneud i ni?’

18. Ac eto Duw oedd yn llenwi eu tai â phethau da! –Dydy ffordd pobl ddrwg o feddwl yn gwneud dim sens i mi!

19. Mae'r rhai cyfiawn yn gweld eu dinistr, ac yn llawen;mae'r diniwed yn eu gwawdio nhw.

Job 22