Job 20:11-20 beibl.net 2015 (BNET)

11. Yn ifanc, a'i esgyrn yn llawn egni,bydd yn gorwedd yn y llwch heb ddim.

12. Er bod drygioni'n blasu'n felys iddo,a'i fod yn ei gadw o'r golwg dan ei dafod,

13. i gadw'r blas yn ei geg,a cheisio ei rwystro rhag darfod;

14. bydd yn suro yn ei stumog,ac fel gwenwyn gwiber yn ei fol.

15. Bydd yn chwydu'r holl gyfoeth a lyncodd;bydd Duw yn gwneud iddo gyfogi.

16. Roedd wedi sugno gwenwyn y wiber;ac mae neidr arall yn ei frathu a'i ladd.

17. Fydd e ddim yn cael mwynhau'r nentydd,yr afonydd a'r ffrydiau diddiwedd o fĂȘl a caws colfran.

18. Fydd e ddim yn gallu cadw'r holl elw a lyncodd;fydd e ddim yn cael mwynhau ffrwyth ei fasnachu.

19. Pam? Am ei fod wedi sathru'r tlodion a'u gadael i ddioddef,ac wedi dwyn tai wnaeth e ddim eu hadeiladu.

20. Ond dydy e byth yn cael ei fodloni,a dydy ei chwant am fwy byth yn ei adael.

Job 20