4. Ti wedi dallu'r rhain; dŷn nhw ddim yn deall,felly fyddan nhw ddim yn llwyddo.
5. Maen nhw fel dyn yn cynnig gwledd i'w ffrindiautra mae ei blant ei hun yn llwgu.
6. Dw i wedi cael fy ngwneud yn destun sbort i'r bobl;maen nhw'n poeri yn fy wyneb.
7. Mae fy llygaid yn pylu oherwydd y gofid,a'm corff i gyd yn ddim ond cysgod.
8. Mae pobl dda yn methu credu'r peth,a'r un heb fai yn cael ei gythruddo gan yr annuwiol.
9. Mae'r rhai cyfiawn yn cadw eu hunain yn bur,a'r rhai glân eu dwylo yn mynd o nerth i nerth.