Job 16:12-21 beibl.net 2015 (BNET)

12. Roedd bywyd yn ddibryder, ond chwalodd y cwbl;gafaelodd yn fy ngwar a'm malu'n ddarnau mân.Mae wedi fy newis fel targed,

13. ac mae ei saethwyr o'm cwmpas.Mae wedi trywanu fy mherfedd yn ddidrugaredd,ac mae fy ngwaed wedi ei dywallt ar lawr.

14. Dw i fel wal mae'n torri trwyddi dro ar ôl tro,ac mae e'n rhuthro yn fy erbyn fel rhyfelwr.

15. Mae sachliain yn sownd i'm croen;a chladdwyd pob nerth oedd gen i yn y llwch.

16. Ar ôl wylo'n chwerw mae fy wyneb yn goch,ac mae cysgodion tywyll dan fy llygaid.

17. Ond dw i ddim wedi gwneud niwed i neb,ac mae fy ngweddïau'n ddidwyll.

18. Ddaear, paid gorchuddio fy ngwaed!Paid gadael i'm protest fynd o'r golwg!

19. Hyd yn oed nawr, mae gen i dyst yn y nefoedd;mae Un all sefyll gyda mi yn yr uchelder!

20. Ond mae fy ffrindiau'n fy nirmygu,tra dw i'n wylo dagrau o flaen Duw.

21. O na fyddai e'n dadlau achos creadur meidrol,fel rhywun yn amddiffyn ei ffrind.

Job 16